Bibliography

Sarah
Rowles

2 publications between 2006 and 2008 indexed
Sort by:

Theses

Rowles, Sarah, “Yr Elucidarium: iaith, strwythur, cynnwys ac arwyddocâd y cyfieithiaddau Cymraeg”, 2 vols, PhD thesis, Aberystwyth University, Department of Welsh and Celtic Studies, 2008. URL: <http://hdl.handle.net/2160/1877>. 
abstract:

Pwnc y traethawd hwn yw’r cyfieithiadau Cymraeg o Elucidarium Honorius Augustodunensis. Er mai fersiwn Llyfr yr Ancr (1346) a olygwyd gan Syr John Rhŷs a John Morris Jones yn 1894 yw’r testun cyflawn hynaf ar glawr, canolbwyntir yma’n bennaf ar fersiwn llawysgrif Llanstephan 27, a gopïwyd c.1400, fersiwn nas golygwyd o’r blaen. Trafodir yn gryno fywyd a chefndir awdur y testun Lladin gwreiddiol, a’r dadleuon ynghylch ei enw a’i dras. Yna crynhoir cynnwys y testun, gan gyfeirio at ffynonellau’r awdur ac at y ffurf a ddewisodd i’w gampwaith. Ceisir rhoi cyfrif am boblogrwydd yr Elucidarium, a’i osod yng nghyd-destun gweithiau eraill yr awdur. Cyfeirir at fersiynau Islandeg/Hen Norwyeg cynnar, a cheir cipolwg ar gyfieithiadau i’r Saesneg ac i’r Ffrangeg, cyn trafod yn fanylach y fersiynau Cymraeg canoloesol a’r berthynas rhyngddynt, gan ystyried hefyd gefndir y cyfieithu yng Nghymru. Edrychir ar ymateb rhai o feirdd Cymru i gynnwys y testun, a dangosir bod diddordeb yn yr Elucidarium wedi parhau yng Nghymru ar ôl y Diwygiad Protestannaidd. Yna ymdrinir â fersiynau o’r testun mewn llawysgrifau diweddarach, sydd yn cael eu hystyried yn grynodebau o destun Honorius. Cymerwyd fersiwn llawysgrif Llanstephan 27 yn brif destun, gan ddangos amrywiadau arno yn y testunau cynharaf. Cynhwysir pennod ar iaith y cyfieithiadau a chynigir nodiadau testunol. Rhoddir mewn atodiad fersiwn Lladin a gyhoeddwyd gan Yves Lefèvre yn 1954 fel testun gwreiddiol Honorius. Atodir llyfryddiaeth ar ddiwedd Cyfrol 1.

Contributions to journals

Rowles, Sarah, “Ystorya Adaf: golwg ar un o ffynonellau cyfiethwyr y chwedlau crefyddo”, Llên Cymru 29:1 (2006): 44–60.